Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci rhwng 1952 a 1959 cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth.
Symudodd y teulu i Brestatyn ym 1961 a mynychodd Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl, hyd 1966, wedi i'w mam, Mair Davies, dderbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn yr un ysgol.
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth cyn dilyn cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan gynnwys Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur (a addasodd yn ddiweddarach fel tair nofel).